Rydym bob amser yn awyddus i gael cyfle i fynd allan i’n cymuned a rhannu’r newyddion am yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut y gall pobl ein cefnogi. Mae digwyddiadau yn ffordd wych o gwrdd â phobl wyneb yn wyneb a rhannu ein hangerdd am y gwaith hwn.
Os ydych chi’n trefnu digwyddiad yn ardal Pontypridd a ‘dych chi’n meddwl bydd gennym ddiddordeb i ddod â stondin, cysylltwch â ni. Os hoffech chi siarad â ni am drefnu digwyddiad yn eich ardal chi i ymgysylltu â’r gymuned am ddarn o dir, cysylltwch â ni.
Darllenwch mwy am y gwaith yma:
Cyfarfod Mynediad i Dir Cymunedol
Cynhaliwyd y Cyfarfod Mynediad i Dir Cymunedol ar 10 Mehefin 2023 ar Stryd y Felin, Pontypridd. Daeth grwpiau cymunedol o bob rhan o RhCT ynghyd i rannu’r hyn sy’n bosib pan fydd cymunedau’n cael mynediad i dir. Fe’i trefnwyd gan Tir Pontypridd mewn partneriaeth â Between the Trees, Cwmpas a Storyville Books.
Tir Pontypridd at Ty Unnos
Cafodd Tir Pontypridd stondin yn nigwyddiad Citrus Arts Ty Unnos ar Gomin Pontypridd ar 15 Hydref 2023. Bu aelodau’r pwyllgor, Shirley Doyle a Louise K Atreides, yn ymgysylltu â phobl i ofyn pa mor bwysig yw cysylltiad â thir iddyn nhw. Gallwch ddarllen mwy am y digwyddiad ac arfer Tir Unnos yn ein blog, Y Ffridd.