Tir am y Gymuned
Land for the Community
Ymaelodwch â Tir Pontypridd, grŵp sy’n dod a’r gymuned ynghyd i brynu tir er mwyn pawb!
Sicrhau mynediad i dir er mwyn iechyd a lles
Pobl leol yn cael dweud eu dweud ar ddefnydd y tir
Datblygu strwythur cyfreithiol a phroses democrataidd cadarn
Prosiectau cadarnhaol am yr amgylchedd & cynaladwyedd
Gerddi cymunedol, rhandiroedd, tyfu’n organig a pherllanau
Gwarchod coetiroedd a dolydd i gefnogi bioamrywiaeth
Sut mae hi’n gweithio?
Rydym yn grŵp aelodaeth sydd wedi’i sefydlu ac yn cael ei rhedeg gan yr aelodau. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un, ac mae’r arian â chodir gan yr aelodaeth yn mynd tuag at brynu tir at ddefnydd y gymuned.
Wrth ddod yn aelod bydd gennych chi hawl i bleidleisio, a helpu ni i gwneud penderfyniadau pwysig. Mae hi’n bwysig i ni taw pobl lleol fydd yn gwneud penderfyniadau dros cymunedau eu hunain, felly dim ond y rhai sy’n byw yn yr ardal Pontypridd a’i gyrion sy’n gallu cael pleidlais. Bydd aelodau sy’n byw tu allan i ardal Pontypridd ddim gyda’r hawl i bleidleisio.
Bydd pob darn o dir yn wahanol, ac mewn pob achlysur byddwn yn gweithio gyda’r gymuned leol i benderfynu sut y gellir defnyddio’r tir er mwyn ateb yr anghenion lleol ac amgylcheddol. Gall hyn fod i greu mannau gwyrdd cymunedol neu dyfu bwyd, creu ynni neu coedwigaeth. Ymwelwch â tirpontypridd.org/yffridd i ddysgu mwy am ein syniadau ar sut mae prynu tir yn gallu helpu ein cymunedau i ffynnu; gydag ymchwil, syniadau ac ysbrydoliaeth gan gymunedau arall.
Sut allai i ymuno?
Gallwch gofrestru ar gyfer aelodaeth fisol, gan dalu rhwng £3-10 y mis, neu aelodaeth flynyddol am ddisgownt.
Gallwch ymuno fel unigolyn neu fel cartref am yr un ffi. Yn syml, wrth ymaelodi ychwanegwch enw hyd at 1 aelod ychwanegol sy’n byw yn yr un cyfeiriad pan fyddwch yn ymuno.
Barod i ymaelodi? Cliciwch ar ‘Ymaelodwch’ i fynd i MemberMojo, ein system cofrestru arlein ac ymaelodwch gyda’ch manylion a’ch ffî aelodaeth. membermojo.co.uk/tirpontypridd
Am fwy o wybodaeth ar aelodaeth, ewch at y tudalen yma:
Ewch yn syth i MemberMojo ac ymunwch â Tir Pontypridd
Beth sy’n digwydd nesaf?
Prynu tir
Bydd yr incwm a daw o aelodaeth yn cael ei arbed yn ein cyfrif gydag Unity Trust Bank, gan dyfu’n araf nes bod digon yn y cyfrif i brynu tir at ddefnydd cymunedol.
Croeso i bawb ym Mhontypridd
Ein nod yw recriwtio 30 aelod sy’n talu rhwng £3-10 y mis yn ein blwyddyn gyntaf gan gynhyrchu dros £2000 mewn incwm, a’n nod yw dyblu ein haelodaeth bob blwyddyn.
Gwneud penderfyniadau cymuned gyfan
Fel aelod bydd gennych chi (ac unrhyw aelodau arall o’r cartref a ychwanegwyd) yr hawl i bleidleisio yn ystod cyfarfodydd AGM/CCB, ac unrhyw gyfarfodydd arbennig caiff ei gynnal er mwyn penderfynu ar brynu a defnyddio darnau o dir penodol.
Adeiladu ein cymuned
Rydym yn dechrau fel cymdeithas gymunedol a gallwch weld ein Cyfansoddiad/Constitution ar y tudalen polisiau o’n gwefan. Byddwn yn gweithio tuag at sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Busnes 2022.