Perchnogion Tir

Rydym am ddechrau deialog agored gyda pherchnogion tir ynghylch sut mae’r gymuned leol yn cael mynediad i dir o amgylch Pontypridd ac yn medru ei ddefnyddio.

Efallai eich bod yn berchen â thir preifat neu yn aelod o’r gymuned ffermio, neu efallai rydych chi’n gorff cyhoeddus / sefydliad cymunedol sy’n rheoli tir sydd bellach yn weddill i’ch anghenion.

Efallai y byddwch am werthu neu roi eich tir, gydag awydd i weld ei fod yn dod i berchnogaeth gymunedol, yn hytrach na chael ei werthu i’r sector preifat neu ddatblygwyr tir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni yn Tir Pontypridd i ddechrau sgwrs am ddefnydd tir, mynediad cymunedol i dir ym Mhontypridd a sut y gallwn gefnogi ein gilydd, cysylltwch â ni trwy e-bost tirpontypridd@gmail.com